Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Tachwedd 2023
Amser:
13.31 -
15.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13549
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Adam Price AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)401 - Gorchymyn Cymelldaliadau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)412 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)396 - Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
3.2 SL(6)397 - Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
4.2 Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Craffu ar waith y Gweinidogion
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.2 Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
5.3 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gweithgaredd Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft arall yn ei gyfarfod nesaf.
8 Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. Hefyd nododd y Pwyllgor yn ffurfiol y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
9 Bil Seilwaith (Cymru): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft diwygiedig a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.
10 Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn Saesneg yn unig: Ystyried papur trafod
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y papur trafod a chytunodd i ysgrifennu at bwyllgorau Senedd y DU, i ysgrifennu at Lywodraeth y DU, ac i ailedrych ar y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
11 Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft diwygiedig a chytunodd arno.